Safle porth ar y we yw Llesiant Grangetown gyda’r nod o gydlynu gweithrediadau er llesiant yn Grangetown trwy ddarparu gwybodaeth am fentrau a grwpiau lleol.
Mae hefyd yn darparu platfform i grwpiau cymunedol siarad â’i gilydd yn rhith ac i ddiweddaru gwybodaeth trwy raglen i aelodau y mae’n rhaid mewngofnodi i’w defnyddio.
Sut i ddefnyddio’r porth?
I ddod i wybod am weithgareddau rheolaidd, misol neu untro a sut i gael mynediad atynt. Cliciwch ar ‘Digwyddiadau’.
I ddod i wybod am y grwpiau y tu ôl i’r porth hwn a gweithredu yn y gymuned yn lleol. Cliciwch ar y ‘Rhestr o Rwydweithiau’.
I ddod i wybod am gyfleoedd i wirfoddoli neu i chwilio am wirfoddolwyr. Cliciwch ar ‘Gwirfoddoli’.
Ardal yr aelodau. Ardal yw hon ar gyfer grwpiau a mudiadau sy’n cyflwyno gweithgareddau i wella llesiant trigolion Grangetown, lle gallant bostio digwyddiadau, cyfathrebu â’i gilydd a gwneud cysylltiadau perthnasol.
I roi gwybod i ni am ddigwyddiadau newydd neu i gofrestru i ddod yn aelod a chael mynediad at y fforwm i aelodau. Cliciwch ar ‘Cysylltu â ni’.
